‘Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer rheoli coedtiroedd. Gallwn gynnig gwasanaeth proffesiynol ichwi. Gallwn gael gwared a mieri a dryswch cyn creu eich coedtir newydd neu adfer eich coedlan bresennol.
Gellir ffensio terfynnau y goedlan i gadw’r coed bach ifanc rhag eu difrodi gan anifeiliad megis defaid neu wartheg. Mae’n bosibl creu llwybrau neu ffosydd yn ol y galw. Hefyd gallwn greu cloddiau pridd neu gerrig o’r newydd neu adfer rhai sydd wedi disgyn.
Mae’n bosibl creu llynnoedd.
Mae gennym brofiad o 25mlynedd o weithio ym maes cadwraeth amgylcheddol a thrin peiriannau ar gyfer y gwaith.
Bydd y gwasanaeth o gynnigir yn amhrisiadwyi’r rhai sydd yn mentro i’r cynlluniau amgylcheddol newydd megis Glastir gan Llywodraeth Cymru. Neu y Cynllun Creu Coedtir Glastir. |